EdD Cenedlaethol (Cymru) Doethur Addysg

Information on Applying for the Welsh National EdD

EdD Cenedlaethol (Cymru) Doethur Addysg

Mae ceisiadau ar gyfer 2026 bellach ar agor

Doethuriaeth Genedlaethol mewn Addysg (Cymru)

Gwybodaeth i Ymgeiswyr 2026

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rhaglen EdD Genedlaethol (Cymru), rhaglen ran-amser a gyflwynir ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd o fis Ionawr 2026.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer addysgwyr sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru), neu unrhyw radd Meistr Addysg arall, lle gellir dangos cyfwerthedd.

Gwybodaeth am y Rhaglen Doethuriaeth Genedlaethol mewn Addysg (Cymru)

Fel rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwella cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cefnogi datblygiad Doethuriaeth Genedlaethol mewn Addysg (EdD) (Cymru) ddwyieithog newydd a lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Ionawr 2025. Gan adeiladu ar y MA Addysg Genedlaethol (Cymru) a’r bartneriaeth gref bresennol rhwng Prifysgolion yng Nghymru, mae’r EdD Genedlaethol (Cymru) yn cynnig llwybr dilyniant clir i weithwyr proffesiynol sy’n awyddus i adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd yn eu gradd Meistr, trwy weithio gydag academyddion ac arbenigwyr ymchwil ar draws Prifysgolion Cymru sy’n cymryd rhan a chyda arbenigwyr yn rhyngwladol.

Nodweddion nodedig y rhaglen yw:

1. Dilyniant – gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r Meistr Addysg (Cymru), a’r rhai sydd â chymwysterau Meistr cyfatebol eraill, ddilyn astudiaeth lefel uwch sy’n rhoi iddynt ehangder arbenigedd a chefnogaeth o ansawdd gan y Prifysgolion sy’n cymryd rhan.

  1. Darpariaeth ddwyieithog Mae cyflwyno ac arbenigedd yn y ddwy iaith yn nodwedd bwysig o’r EdD Genedlaethol (Cymru) ac felly’n hyrwyddo ysgolheictod yn y ddwy iaith.

  1. Cymunedau Ymarfer – mae model ‘Cymuned EdD Genedlaethol (Cymru)’ yn creu seilwaith o unigolion cysylltiedig, cymwys iawn, sy’n gweithio ar lefel doethuriaeth, sydd yn y sefyllfa orau ac wedi’u cymell orau i helpu system Cymru i symud ymlaen. Mae rhaglen EdD Genedlaethol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr EdD Genedlaethol (Cymru) ffurfio eu Cymunedau Ymarfer eu hunain i gael cefnogaeth ac ymgysylltiad cilyddol yn ystod y rhaglen.

  1. Arbenigedd – mae academyddion blaenllaw yng Nghymru ac arbenigwyr rhyngwladol yn darparu canllawiau clir, cyson a rheolaidd i helpu myfyrwyr lywio eu ffordd yn llwyddiannus trwy astudiaeth lefel doethuriaeth. Mae natur gyfunol yr arbenigedd sydd ar gael i fyfyrwyr ar yr EdD Genedlaethol (Cymru) yn mynd y tu hwnt i’r hyn a brofir fel arfer mewn un sefydliad.

  1. Dysgu Cyfunol – mae’r EdD Genedlaethol (Cymru) yn sicrhau bod cyfranogwyr yn elwa o ddull dysgu cyfunol i wneud y mwyaf o hyblygrwydd gyda goruchwyliaeth bwrpasol drwy gydol eu hastudiaethau. Mae deunyddiau Dysgu o Bell i gefnogi sesiynau addysgu ar-lein ar gael trwy Lwyfan Dysgu PebblePad (PLP) CGA .

  1. Mae dyluniad yr EdD Genedlaethol (Cymru) yn rhoi cyfle i ymarferwyr o fewn ystod eang o gyd-destunau addysgol ddilyn rhaglen astudio lefel 8 rhan-amser, trwy gefnogaeth a chyngor ar y cyd gan y prifysgolion sy’n cymryd rhan i gwblhau gwaith lefel doethuriaeth yn llwyddiannus.

Gwneud cais am yr EdD (Cymru)

Dwy ran sydd i’r broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen EdD Genedlaethol.

Rhan un

Dylai ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol i’r Athro Michelle Jones, Cyfarwyddwr y Rhaglen EdD Genedlaethol drwy NationalMA@Cardiffmet.ac.uk erbyn 31 Gorffennaf 2025

  1. Cynnig Ymchwil (Uchafswm o 1000 o eiriau) i gynnwys:-
  • Rhesymau dros ddilyn yr EdD Genedlaethol (Cymru).
  • Teitl arfaethedig gyda maes ymchwilio neu astudiaeth ymchwil.
  • Cwestiwn(au) ymchwil arfaethedig
  • Rhesymeg, cefndir neu gyd-destun yr astudiaeth: pa ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn?
  • Dyluniad/methodoleg ymchwil arfaethedig
  • Pam mae ymgeiswyr yn teimlo bod yr ymchwil hon yn bwysig.
  • Rhestr gyfeiriadau (ni fydd hyn yn cyfrif fel rhan o 1000 o eiriau)

  1. Tystiolaeth o radd Meistr (gan gynnwys dosbarthiad a theitl traethawd hir). Cyflwynwch ffeiliau PDF yn unig.
  1. Rôl a chyfrifoldebau cyfredol ynghyd â dewis o sefydliad lle byddant yn cofrestru. h.y.

Aberystwyth

Bangor

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

(Noder: Er y bydd pob myfyriwr doethuriaeth EdD Cenedlaethol yn cofrestru mewn un sefydliad, bydd y garfan EdD Genedlaethol yn cymryd rhan mewn profiadau dysgu a rennir, cynadleddau, a chyfleoedd rhwydweithio ynghyd â phenwythnos preswyl EdD wyneb yn wyneb, ar y campws i bob myfyriwr).

Rhan dau

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn Rhan Un yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar-lein i drafod eu Cynnig Ymchwil. Os byddant yn llwyddiannus yn y cam cyfweliad, byddant wedyn yn cofrestru’n uniongyrchol gyda’r sefydliad o’u dewis.

Cyllid

Mae Cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i addysgwyr sy’n gweithio yng Nghymru* ac sy’n dangos yn llwyddiannus eu bod yn bodloni’r meini prawf academaidd. Mae 30 o leoedd wedi’u hariannu ar gael ar gyfer derbyniadau 2025-2026. Mae opsiynau eraill wedi’u hariannu yn cynnwys hunan-ariannu neu gyllid sefydliadol.

*Mae addysgwyr a ystyrir yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen hon yn cynnwys:

  • Athrawon cymwys
  • Cynorthwyr Addysgu neu Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch sy’n bodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen
  • Arolygwyr Estyn
  • Awdurdod lleol / cynghorwyr partneriaeth awdurdod lleol

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, rhaid i ymgeiswyr:

  • Fodloni gofynion mynediad academaidd y Sefydliad Addysg Uwch
  • Cael eu derbyn/cofrestru ar y rhaglen Doethuriaeth Addysg Genedlaethol EdD (Cymru) benodol hon a gynigir gan y 3 Sefydliad Addysg Uwch partneriaeth sy’n cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Naill ai:
  1. Gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a:
  • Cael eu cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (y mae’n rhaid ei gynnal drwy gydol y rhaglen)
  • Cael eu cyflogi ar gontract o leiaf 0.4 FTE, gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol neu asiantaeth
  1. Gweithio fel arolygydd Estyn, neu
  1. Gweithio i awdurdod lleol neu bartneriaeth awdurdod lleol mewn swyddogaeth gynghori ysgolion
  • Cael cefnogaeth eu Pennaeth neu gyfwerth (Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol, Pennaeth Gwasanaeth).

Strwythur yr EdD Genedlaethol (Cymru)

Bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) neu raglen Meistr gyfatebol (mewn addysg) yn symud ymlaen i gam 1 (Blwyddyn 1) o’r EdD Genedlaethol Cymru gyda 120 credyd a addysgir lefel 7 a fydd yn cael eu mewnforio.

CYFNOD 1 (Blwyddyn 1 EdD)

Mae Cam 1 o’r EdD Cenedlaethol (Cymru) yn cynnwys modiwl 60 credyd a addysgir ar lefel 8 ‘Cynllunio ar gyfer Astudiaeth Doethurol a Pharatoi Traethawd Hir’. Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein mewn chwech sesiwn rhithiol a addysgir (Ionawr i Hydref 2026) ac Ysgol Haf EdD breswyl orfodol ar gampws (Gorffennaf 2026). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth bwrpasol trwy’r platfform Pasbort Dysgu Proffesiynol (PLP).

CYFNOD 2 (Blynyddoedd 2 i 6 EdD)

Bydd Cyfnod 2 o’r EdD Cenedlaethol (Cymru) yn gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil empirig a fydd yn arwain at gwblhau traethawd ymchwil o safon doethuriaeth. Bydd goruchwylwyr academaidd yn cefnogi myfyrwyr drwy gydol y cyfnod hwn.

Dylid cyfeirio ymholiadau pellach am yr EdD at nationalmaeducation@cardiffmet.ac.uk yn y lle cyntaf.

Cwestiynau Cyffredin:

  1. Ar gyfer pwy mae’r rhaglen EdD wedi’i bwriadu?

Mae’r EdD Genedlaethol (Cymru) yn rhaglen Doethuriaeth mewn Addysg ran-amser a gyflwynir ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer addysgwyr sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) neu raddau Meistr cyfatebol eraill.

Bydd angen dangos cywerthedd ar gyfer graddedigion MA nad ydynt dod o’r rhaglen MA Addysg Genedlaethol.

  1. Sut mae’r rhaglen wedi’i strwythuro?

Cyfnod 1 (Blwyddyn 1): Modiwl 60 credyd a addysgir o’r enw “Cynllunio ar gyfer Astudiaeth Doethurol a Pharatoi Traethawd Hir,” a gyflwynir ar-lein ac sy’n cynnwys ysgol haf orfodol yng Nghaerdydd.

Cyfnod 2 (Blynyddoedd 2-6): Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil empirig, gan arwain at draethawd ymchwil lefel doethuriaeth gyda chefnogaeth gan oruchwylwyr academaidd.

  1. Sut mae gwneud cais am yr EdD Cenedlaethol (Cymru)?

I wneud cais, rhaid i chi:

  • Gyflwyno dystiolaeth o’ch gradd Meistr (dosbarthiad a theitl eich traethawd hir).
  • Darparu lythyr cefnogaeth gan eich rheolwr llinell.
  • Nodi eich rôl bresennol, eich cyfrifoldebau, a’ch sefydliad dewisol (Aberystwyth, Bangor, neu Fetropolitan Caerdydd).
  • Nodi eich llwybr ariannu: Cyllid Llywodraeth Cymru, Cyllid Sefydliadol, neu Hunangyllido.
  • Cyflwyno grynodeb 1000 o eiriau gan gynnwys:
  • Rhesymau dros ddilyn yr EdD Cenedlaethol (Cymru).
  • Teitl arfaethedig gyda maes ymchwilio neu astudiaeth ymchwil.
  • Cwestiwn (au) ymchwil arfaethedig
  • Rhesymeg, cefndir neu gyd-destun yr astudiaeth: pa ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn?
  • Dyluniad/methodoleg ymchwil arfaethedig
  • Pam mae ymgeiswyr yn teimlo bod yr ymchwil hon yn bwysig.
  • Rhestr gyfeiriadau (ni fydd hyn yn cyfrif fel rhan o 1000 o eiriau)

  1. Pa opsiynau ariannu sydd ar gael?

Gall ymgeiswyr geisio am gyllid drwy:

Llywodraeth Cymru (gweler y meini prawf cymhwysedd uchod)

Cyllid Sefydliadol

Hunan-Gyllido

  1. Bydd unrhyw gydrannau wyneb yn wyneb?

Bydd. Mae’r rhaglen yn cynnwys Ysgol Haf EdD Genedlaethol orfodol ar y campws yn ystod mis Gorffennaf 2026, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o gefnogaeth gan eu Pennaeth/Rheolwr Llinell cyn gwneud cais.

  1. Sut alla i gael rhagor o wybodaeth?

Os oes cwestiynau gennych, cysylltwch â nationamaeducation@cardiffmet.ac.uk

  1. Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf cychwynnol yn cymryd rhan mewn proses gyfweld. Ar ôl cwblhau’r cyfweliad yn llwyddiannus, gofynnir i chi gofrestru gyda’r sefydliad o’ch dewis.

Dyddiad cau ar gyfer mynediad Ionawr 2026: Gorffennaf 31 2025.